Fframwaith wrth gefn ar warediadau a thrafnidiaeth – Galw ar y diwydiant i dendro
Cyhoeddwyd ar ddydd Gwener 28 Ionawr 2011 am 16:40
Mae Iechyd Anifeiliaid a Defra wedi cyhoeddi hysbysiad Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU) yn gwahodd tendrau ar gyfer cytundeb fframwaith ar gyfer gwasanaethau Gwaredu a Chludo Carcasau.
Gwahoddir darparwyr gwasanaethau cludo nwyddau a nwyddau peryglus, darparwyr gwasanaethau llosgi a rendro i dendro ar gyfer y cytundeb fframwaith, a fydd ar gael i’w ddefnyddio gan Adrannau’r Llywodraeth Ganolog, Asiantaethau, Gweinyddiaethau Datganoledig, Cyrff Cyhoeddus Anadrannol ac Awdurdodau Lleol. Y prif ddefnydd arfaethedig a wneir o’r cytundeb fframwaith yw ar gyfer ymateb i achosion o glefydau anifeiliaid hysbysadwy. Gellir defnyddio’r fframwaith hefyd ar gyfer gwaredu a chludo carcasau yn ystod mathau eraill o ddigwyddiadau neu argyfyngau.
Mae’r proses tendro yn gofyn bod darpar gyflenwyr yn ateb cyfres o gwestiynau yn ymwneud â’u sefydliad. Bydd yr ymatebion hyn wedyn yn cael eu gwerthuso ac yn dilyn hyn, bydd amrediad o ddarparwyr llwyddiannus yn cael eu hychwanegu at gytundeb fframwaith wrth gefn yn caniatáu i wasanaethau gael eu gohirio pan fo angen.
Ar gyfer cwmnïau sydd â diddordeb mewn gwneud cais, mae mwy o wybodaeth ar gael ar system E-Tendro Defra, “Bravo”. Bydd angen i chi glicio ar “view current opportunities” ac wedyn ar “Carcase Disposal and Transport - Contingency Contract”. Bydd angen i chi gofrestru ar Bravo er mwyn cael mynediad i’r dogfennau tendro llawn a chyfarwyddiadau.
Gellir cael mynediad at Bravo drwy: https://defra.bravosolution.co.uk
Nodwch fod angen cyflwyno unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’r tendr ar-lein trwy’r system negeseuon Bravo. Mae rhif ffôn ar gael hefyd ar gyfer unrhyw faterion technegol gyda’r system Bravo – er enghraifft, cael manylion mewngofnodi ac ati.
Dydd Llun 7fed Chwefror 2011 yw’r dyddiad cau ar gyfer unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’r tendr a dogfennau cysylltiedig.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau terfynol yw 12:00yh ar ddydd Llun 7fed Mawrth 2011.

